![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cynnig a fwriedir, prosiect ![]() |
---|---|
Crëwr | Fforwm Economaidd y Byd ![]() |
Gwefan | https://www.weforum.org/great-reset/ ![]() |
![]() |
Y Great Reset (bathiad: yr Ailosod Enfawr) oedd enw 50fed cyfarfod blynyddol Fforwm Economaidd y Byd (WEF), a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020. Mae'r enw'n parhau i gael ei ddefnyddio am yr ysgol o feddwl a ddaeth o'r fforwm. Daeth arweinwyr busnes a gwleidyddon proffil uchel ynghyd, ac a gynullwyd gan Charles, Tywysog Lloegr a’r WEF, gyda’r thema o newid cymdeithas a’r economi yn dilyn pandemig COVID-19.[1] Mae Fforwm Economaidd y Byd yn awgrymu’n gyffredinol mai’r ffordd orau o reoli byd sydd wedi’i globaleiddio yw trwy glymblaid hunan-ddethol o gorfforaethau rhyngwladol, llywodraethau a sefydliadau cymdeithas sifil (CSOs).[2]
Disgrifiodd prif swyddog gweithredol WEF, Klaus Schwab, dair elfen graidd i'r Ailosod Mawr: mae'r cyntaf yn ymwneud â chreu amodau ar gyfer "economi rhanddeiliaid" (stakeholder economy); mae'r ail gydran yn cynnwys adeiladu mewn ffordd fwy "gwydn, teg a chynaliadwy" - yn seiliedig ar fetrigau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) a fyddai'n ymgorffori mwy o brosiectau seilwaith cyhoeddus gwyrdd; y drydedd gydran yw "harneisio'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol" er lles y cyhoedd.[3][4] Yn ei phrif araith yn agor y deialogau, rhestrodd cyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Kristalina Georgieva, dair agwedd allweddol ar yr ymateb cynaliadwy: twf gwyrdd, twf craffach, a thwf tecach.[5][1]
Yn nigwyddiad lansio'r Ailosod Mawr, rhestrodd y Tywysog Charles feysydd allweddol ar gyfer gweithredu, yn debyg i'r rhai a restrir yn ei Fenter Marchnadoedd Cynaliadwy, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2020. Roedd y rhain yn cynnwys ailfywiogi gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi, symud tuag at drawsnewidiadau sero net yn fyd-eang, cyflwyno prisio carbon, ailddyfeisio strwythurau cymell hirsefydlog, ail-gydbwyso buddsoddiadau i gynnwys mwy o fuddsoddiadau gwyrdd (ond nid pob un), ac annog prosiectau seilwaith cyhoeddus gwyrdd.[1] (Gweler golchi gwyrdd).
Ym mis Mehefin 2020, cyhoeddwyd thema'r 50fed Fforwm Economaidd y Byd, Ionawr 2021 fel “Yr Ailosod Enfawr” (The Great Reset), gan gysylltu arweinwyr byd-eang personol ac ar-lein yn Davos, y Swistir â rhwydwaith aml-randdeiliaid mewn 400 o ddinasoedd ledled y byd.[6] Yr Ailosod Enfawr hefyd oedd prif thema uwchgynhadledd WEF yn Lucerne ym mis Mai 2021, a ohiriwyd tan 2022.[7][8]
Mae Fforwm Economaidd y Byd yn awgrymu’n gyffredinol mai’r ffordd orau o reoli byd sydd wedi’i globaleiddio yw trwy glymblaid hunan-ddethol o gorfforaethau rhyngwladol, llywodraethau a sefydliadau sifil (CSOs).[9] Mae'n gweld cyfnodau o ansefydlogrwydd byd-eang - fel yr argyfwng ariannol a'r pandemig COVID-19 - fel cyfleon i wthio ei rhaglen ei hun. Mae rhai beirniaid felly'n gweld yr Ailosod Enfawr fel parhad o strategaeth Fforwm Economaidd y Byd o ganolbwyntio ar bynciau ble ceir actifyddion megis diogelu'r amgylchedd[10] ac entrepreneuriaeth gymdeithasol[11] i guddio nodau plwocrataidd gwirioneddol y sefydliad.[12][13][14] Mae felly'n annog creu byd plwocrataidd, hyn byd sy'n cael ei reoli gan llond dwrn o bobl o gyfoeth neu incwm enfawr.
Yn ôl The New York Times, BBC News, The Guardian, Le Devoir a Radio Canada, tafl;wyd llwch i lygaid pobl, ac ymledodd damcaniaeth gydgynllwyniol gan grwpiau asgell dde eithafol Americanaidd sy'n gysylltiedig â QAnon ar ddechrau'r fforwm Ailosod Enfawr. Cynyddodd y sylw wrth i arweinwyr fel Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden a Phrif Weinidog Canada Justin Trudeau [15] ymgorffori syniadau'r Gynhadledd drwy ddefnyddio geiriau a syniadau am “ailosod” yn eu hareithiau.[16]
|access-date=
requires |url=
(help)
|access-date=
requires |url=
(help)
We start with the revival of the baseless conspiracy theory, known as the 'Great Reset'. ...Similarly, a French documentary which also refers to a secret global plot has gone viral on YouTube... it promotes a slew of previously debunked claims
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search